Llyfrau Ffoto

Tagiwch eitemau o’n albymau ffotograffau o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg i wneud y ffotograffau yn haws i’w canfod arlein.

O fewn cloriau ein casgliad helaeth o albymau ffotograffau o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ceir dros 14,000 o ddelweddau sy’n ymwneud â Chymru a'i phobl.

O gipio golygfeydd o ddydd i ddydd i gofnodi newidiadau cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru rhwng c.1850 a c.1900 mae'r delweddau hyn yn yr albymau ffotograffau o werth sylweddol iawn. Nid yn unig y maent yn rhoi golwg inni ar hanes a diwylliant Cymru, gan gynnwys delweddau o fywyd bob dydd, maent yn ymdrin ag ystod o fformatau ac yn cynrychioli gwahanol brosesau ffotograffig. Maent hefyd yn bwysig ar gyfer ymchwil ac yn aml yn gysylltiedig â deunyddiau a chasgliadau eraill o fewn y Llyfrgell.

Yn amlach na pheidio does dim gwybodaeth am y delweddau unigol yn yr albymau ffotograffau ac felly ni ellir eu darganfod; o ganlyniad mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi lansio'r prosiect newydd cyffrous hwn.

Trwy gymryd rhan a thrawsgrifio teitlau yn ogystal â thagio eitemau a welir yn y ffotograffau, o wrthrychau bob dydd i wahanol dirnodau, byddwch yn helpu i ddatgelu’r lefel o fanylder sydd mor bwysig i ymchwilwyr ac yn ei gwneud yn haws i bawb i ddarganfod cynnwys y ffotograffau digidol hyn arlein.