Cardiau Mynegai Merêd a Phyllis

Faint o'r caneuon gwerin, carolau a hwiangerddi yma rydych chi'n nabod?

Cyfrannodd Dr Meredydd Evans, neu Merêd, a’i briod Phyllis Kinney yn allweddol i faes cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru. Treuliodd Merêd ei fywyd yn cyfrannu at fywyd a diwylliant Cymru fel casglwr, hanesydd, cerddor, golygydd, cenedlaetholwr ac ymgyrchydd brwd dros yr iaith Gymraeg. Phyllis KInney yw awdur ‘Welsh Traditional Music’ (2011) yr astudiaeth pwysicaf o gerddoriaeth draddodiadol Cymru. Roedd y ddau yn ffigurau canolog yn natblygiad cerddoriaeth yng Nghymru a buont yn gyfrifol am lunio astudiaeth fanwl o ganeuon ac alawon gwerin Cymru.  

Yn 2018 trosglwyddwyd eu harchif amhrisiadwy i ofal Yr Archif Gerddorol Gymreig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 

Yn rhan o’u harchif ceir miloedd o gardiau mynegai sy’n cynnwys gwybodaeth am ganeuon gwerin, alawon gwerin, geiriau carolau a hwiangerddi. Mae’r mwyafrif o’r rhain yn rhestru enwau alawon/caneuon/carolau yn nhrefn yr wyddor gyda gwybodaeth am eu tarddiad, brawddeg gyntaf y darn neu ar adegau'r pennill cyfan. 

Bwriad Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw sicrhau bod y wybodaeth a geir yn y mynegeion ar gael yn hwylus ar-lein i’r rhai sy’n dymuno ymchwilio i alawon a chaneuon gwerin Cymreig. 

Trwy ymgymryd â’n prosiect gwirfoddoli, ar yr Hwiangerddi yn y lle cyntaf, byddwch yn gyfrifol am drawsgrifio testun fel y gallwn ddarparu mynediad chwiliadwy i’r archif hanfodol hon yn y dyfodol. 

https://blog.llyfrgell.cymru/helar-hen-ganeuon/