Preifatrwydd

Eich Data Personol

Pam eich bod angen y data personol?

Er mwyn ein galluogi ni i gofnodi’r cyfraniadau a wneir ar y platform ac i gyfathrebu â chi am y gwasanaeth hwn.

Ar ba sail y byddwch yn prosesu'r data personol?

Fel rhan o'n Gorchwyl Cyhoeddus fel Llyfrgell Genedlaethol sy'n cael ei gynnwys yn ein Siarter a dogfennau llywodraethiant eraill.  

Fydd unrhyw un arall yn derbyn copi o'r data?

Bydd y data yn cael ei storio'n ddiogel ar system allanol o fewn yr UE gan Digirati dan amodau sy'n cydymffurfio â safonau rhyngwladol ac arfer dda mewn rheoli gwybodaeth yn ddiogel. Rydyn ni'n defnyddio darparwr trydydd parti, MailChimp, er mwyn cyfathrebu'n electronig. Caiff y negeseuon hynny eu cyfyngu i faterion sy'n ymwneud a phrosiectau gwirfoddoli (e.e. eich hysbysu o brosiect newydd ar y platfform) ac NID at ddibenion hyrwyddo a marchnata.  Rydyn ni'n casglu ystadegau am agor e-bost a chlicio drwy ddefnyddio technolegau safonol yn y maes i'n cynorthwyo i fonitro a gwella ein cyfathrebu. Am wybodaeth bellach gweler polisi preifatrwydd MailChimp. Ni fydd eich data yn cael ei rannu gydag unrhyw un y tua allan i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ar ôl i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bydd y system yn cofnodi eich cyfraniadau ynghŷd â dyddiad ac amser y cyfraniadau.  Bydd y wybodaeth hon ynghŷd â’ch ‘Enw Arddangos’ yn weladwy ar y platform ac ar gael yn gyhoeddus

Am ba hyd y byddwch yn cadw'r data personol?

Hyd nes bod mynediad i'r llwyfan yn cael ei ddiddymu.

Beth fydd yn digwydd os nad wyf yn darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer cofrestru?

Ni fyddwn yn medru rhoi mynediad i chi i'r llwyfan torfoli.

Pwy fydd yn gyfrifol am reoli'r data rwy'n ei darparu?

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Beth yw fy hawliau?

Gan ein bod yn prosesu eich data ar sail Public Task mae’r hawliau canlynol yn eiddo i chi:

  1. Hawl i wybod
  2. Hawl mynediad
  3. Hawl i gywiro
  4. Hawl i gyfyngu prosesu
  5. Hawl i wrthwynebu

Am fwy o wybodaeth am eich hawliau gweler tudalen Your Data Matters y Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth.

Ble mae modd cael hyd i fwy o wybodaeth gan LlGC?

Ceir gwybodaeth bellach am ein polisïau gwarchod data ar ein tudalen Rheoliad Cyffredinol Gwarchod Data.