Prosiectau
Porwch drwy restr o brosiectau cyfredol Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Pa un wnewch chi ddewis? Cofiwch fod yn rhaid i chi gofrestru i greu cyfrif cyn y gallwch ddechrau cyfrannu.
Yn ôl i Flaenau Ffestiniog
Ydych chi wedi byw yn nhre Blaenau Ffestiniog neu'r cyffiniau? Efallai y byddech chi'n cofio rhai o'r digwyddiadau, lleoedd neu gymeriadau yng Nghasgliad Gwilym Livingstone Evans
Wynebau'r Rhyfel Byd Cyntaf
Helpwch ni i roi enwau i'r wynebau yn y casgliad hwn o bortreadau a dynnwyd gan D C Harries, ffotograffydd a oedd yn gweithio yn Llandeilo a Rhydaman yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf
Dyddiaduron Kyffin
Trawsgrifiwch ddyddiaduron un o artistiaid enwocaf Cymru, Kyffin Williams (1918-2006) a darganfyddwch y dyn tu ôl i'r celf
Llyfrau Ffoto’r 19eg Ganrif
Tagiwch filoedd o ffotograffau hynafol fel eu yn haws i’w chwilio a’u trefnu
Yn dod cyn bo hir
Cronfa o Ganeuon Gwerin Cymraeg
Helpwch i drosglwyddo cadwrfa caneuon gwerin Cymraeg Meredydd Evans a Phyllis Kinney o system cardiau mynegai i gronfa ddata electronig
Oes gennych chi syniadau neu awgrymiadau ar gyfer prosiectau?
Efallai y gallwch feddwl am ddeunydd yng nghasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol fyddai'n addas ar gyfer y math hwn o brosiect.
Neu mae'n bosib eich bod yn awyddus i gynnal prosiect torfoli yn seiliedig ar eich deunyddiau eich hun.
Os felly, cysylltwch â ni trwy Wasanaeth Ymholiadau'r Llyfrgell. Byddwn yn falch o glywed gennych!