Gwybodaeth am y prosiect

Nid yw straeon y rhai wnaeth geisio osgoi mynd i ymladd am ba bynnag reswm wedi cael sylw amlwg yn hanesyddiaeth y Rhyfel Byd Cyntaf. Nod y prosiect hwn yw i roi mynediad digidol chwiliadwy i ran o dreftadaeth gudd y rhyfel sy'n cael ei chadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’i gwneud yn hygyrch i bawb.

 

Y Tribiwnlysoedd

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf sefydlwyd rhyw 2,000 o dribiwnlysoedd ar draws Prydain ar ôl pasio Deddf Gorfodaeth Filwrol 1916. Pwrpas y rhain oedd i ymdrin ag apeliadau yn erbyn gorfodaeth filwrol. Byddai tribiwnlys lleol yn cyfarfod i drafod a dyfarnu ar achosion, a thribiwnlys sir gyfan yn gwrando ar apeliadau. Byddai pobl yn cyflwyno amrywiaeth o ddadleuon yn erbyn gorfodaeth filwrol, gan gynnwys rhai economaidd, personol a gwrthod ymladd ar sail cydwybod neu ffydd grefyddol.

Yn 1921 cafwyd gorchymyn gan y Llywodraeth i ddinistrio cofnodion y tribiwnlysoedd, ond i gadw dwy set gyflawn, un ar gyfer Middlesex a'r llall o Lothian & Peebles yn yr Alban. Serch hynny, mi wnaeth cofnodion tribiwnlys Sir Aberteifi oroesi, ac maen nhw'n cael eu cadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r archif hon yn un hollol unigryw yng Nghymru, ac yn un o’r ychydig o’i math sy’n bodoli yn y Deyrnas Gyfunol.

 

Trawsgrifio

Fel rhan o’r prosiect hwn byddwch yn trawsgrifio gwybodaeth o gopïau digidol safon uchel o gofnodion tribiwnlysoedd gynhaliwyd ar draws Ceredigion yn Aberaeron, Aberteifi, Aberystwyth, Cei Newydd, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul a Thregaron.

Bydd y wybodaeth yn cynnwys manylion personol, manylion cyflogaeth, rhesymau dros y cais i beidio ymrestru yn y lluoedd arfog, penderfyniad y tribiwnlys a’r rheswm dros y penderfyniad.