Wynebau'r Rhyfel Byd Cyntaf

Helpwch ni i roi enwau i'r wynebau yn y casgliad hwn o bortreadau a dynnwyd gan D C Harries, ffotograffydd a oedd yn gweithio yn Llandeilo a Rhydaman yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Casgliad Portreadau Milwrol D C Harries

Mae Casgliad D C Harries yn cynnwys tua 800 o bortreadau o unigolion a grwpiau fu’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae rhain wedi’u digido gan y Llyfrgell fel rhan o raglen Cymru’n Cofio, ac rydym yn apelio am gymorth gan bobl sydd naill ai’n byw neu â chysylltiad ag ardaloedd Llandeilo a Rhydaman i adnabod wynebau yn y portreadau.

Mwy am D C Harries a'i waith