Llyfrnodi
Nodwedd llyfrnodi ddim yn gweithio
Rydym yn ymwybodol bod ein defnyddwyr yn cael problemau wrth ddefnyddio'r nodwedd llyfrnodi ar bob prosiect ar ein gwefan Torf LLGC. Rydym yn ymchwilio i hyn ac yn edrych ar ffyrdd o ddatrys y mater.
Mae llawer o ddefnyddwyr wedi gallu gweithio o gwmpas y broblem hon drwy ddilyn y camau isod.
Cam 1 – cofnodwch ac arbedwch ID y dudalen
-
Y dull cyflymaf a hawsaf yw edrych ar far cyfeiriad y dudalen rydych chi arni a chymryd nodyn o rif y dudalen fel y dangosir yn y ddelwedd isod.
-
Pan fyddwch yn dymuno dychwelyd i'r prosiect, ewch i unrhyw dudalen gyda delwedd sy'n gofyn am drawsgrifio / tagio a newid ID y dudalen ar ddiwedd yr URL i ba bynnag rif y gwnaethoch ei arbed.
Cam 2 - Gwnewch nodyn o'r URL
-
Gwnewch nodyn o'r URL ym mar cyfeiriad eich porwr a'i gopïo yn rhywle diogel fel dogfen destun ar eich cyfrifiadur.
-
Pan fyddwch yn dymuno dychwelyd i'r prosiect a'ch tudalen, copïwch yr URL a wnaethoch chi ei arbed i mewn i far cyfeiriad eich porwr a gwasgwch ‘enter’. Bydd hyn yn eich llywio i'r dudalen o'ch dewis.
Cam 3
-
Defnyddiwch nodwedd llyfrnodi eich porwr i arbed y dudalen. Bydd hyn yn wahanol ar gyfer pob porwr.