Am Torf LlGC
Torf LlGC yw llwyfan torfoli Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
‘Torfoli’ yw'r proses o gael gwybodaeth neu fewnbwn i dasg trwy gael cymorth nifer fawr o bobl, fel arfer gan ddefnyddio'r rhyngrwyd.
Yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, rydym yn defnyddio technoleg torfoli i wella a chyfoethogi mynediad at gasgliadau treftadaeth.
Cafodd llwyfan LlGC Torf ei datblygu dan nawdd Llywodraeth Cymru er mwyn cynnal prosiectau sy'n defnyddio dulliau torfoli i gasgliadau ar gasgliadau treftadaeth ddiwylliannol, ac i gydweithio gyda chyrff eraill o fewn i Gymru a thu hwnt.
Os hoffech chi gymryd rhan mewn prosiect …
Gallwch ymuno â'n torf o gyfranogwyr heddiw! Wedi i chi greu cyfrif, dewiswch brosiect a chyn hir byddwch yn gwneud eich rhan i rannu hanes a diwylliant Cymru â'r byd.
Mae rhai o'n prosiectau wedi eu datblygu i weithio gyda grwpiau penodol neu mewn gweithdai. Os cewch chi unrhyw drafferth wrth ddewis neu ddechrau gweithio ar brosiect, gallwch gysylltu â ni trwy Wasanaeth Ymholiadau'r Llyfrgell.
Os ydych cyn byw yn ardal Aberystwyth, efallai y byddai gennych ddiddordeb hefyd mewn ymuno â Rhaglen Wirfoddoli'r Llyfrgell.
Os hoffech chi gydweithio a ni …
Rydym bob amser yn agored i gyfleon i gydweithio ar brosiectau newydd.
Mae'n bosib eich bod yn gweithio gyda grwp fyddai'n dymuno gweithio ar brosiect torfoli. Rydym ni wedi canfod bod y math hwn o weithgaredd yn cyfrannu at ymdeimlad o gymuned, datblygu sgiliau newydd, ac o fudd i iechyd a lles.
Efallai eich bod yn gweld cyfleon i wella neu gyfoethogi gwybodaeth am gasgliad o ddeunyddiau sydd o ddiddordeb i chi. Rydym yn arbennig o awyddus i ddarganfod sut y gall prosiectau torfoli gefnogi ymchwil, ac o bosib agor meysydd astudiaeth newydd.
I drafod cydweithio ar brosiect torfoli, cysylltwch â ni trwy Wasanaerth Ymholiadau'r Llyfrgell os gwelwch yn dda.